Mentrau Iaith Cymru

Y Mentrau Iaith

Nod y Mentrau Iaith yw hybu a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws Cymru.

Y Mentrau Iaith

Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth yn 1991, ac yn y blynyddoedd ers hynny mae cymunedau ar draws Cymru wedi gweithredu i ffurfio Mentrau eu hunain. Erbyn hyn mae 22 Menter Iaith yng Nghymru sy’n gwasanaethu pob rhan o Gymru.

Y Mentrau Iaith yw’r ffordd mae cymunedau lleol Cymru yn gweithredu er budd y Gymraeg.  Mae wedi bod yn fodel llwyddiannus dros y blynyddoedd ac yn cael ei gydnabod fel ffordd effeithiol o ddatblygu cymunedol sydd yn gwneud gwahaniaeth yn lleol.

Mae’r Mentrau Iaith yn cael eu rheoli gan bwyllgorau rheoli gwirfoddol ac maent yn gweithio mewn partneriaeth gydag amryw o sefydliadau eraill.

SONY DSC

Ein Gwaith

  • Hanes y Mentrau

    Hanes y Mentrau

    Mwy »
    Hanes y Mentrau

    Hanes y Mentrau

    Sefydlwyd y Fenter Iaith gyntaf yng Nghwm Gwendraeth, chwarter canrif yn ôl, yn 1991, yn dilyn galwadau gan gymunedau’r ardal leol am gryfhau’r gweithgarwch cymunedol Cymraeg.

    Yn fuan wedi hynny, gwelwyd sefydlu nifer o Fentrau Iaith newydd ar draws Cymru, a hynny fel mudiadau cymunedol yn deillio o lawr gwlad.

    Yn ystod y blynyddoedd cychwynnol, bu rhai o’r Mentrau Iaith cyntaf yn helpu ardaloedd eraill i sefydlu eu Mentrau eu hunain, a hynny drwy rannu gwybodaeth a phrofiadau ymysg staff a gwirfoddolwyr. Yn 1999, cafodd Mentrau Iaith Cymru ei sefydlu fel corff cenedlaethol i gefnogi’r Mentrau lleol, ac i sicrhau llwyfan i rannu arferion da a thrafod ar lefel genedlaethol.

    Bellach, mae 22 o Fentrau Iaith yn bodoli, sy’n gwasanaethu pob cwr o Gymru, yn ogystal â dwy Fenter sy’n gweithredu fel prosiectau mewn ardaloedd penodol (Bangor a Phatagonia). Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol annibynnol, sy’n gweithredu o’r gwaelod i fyny, ac mae’r model unigryw i Gymru yn ennyn diddordeb ar draws y byd.

Rhannu'r cynnwys hwn

X
- Enter Your Location -
- or -